Natur
Yn farw dan dunellu o goncrit
uffernol.
Gwerth cadwriaethol
ar chwal
ar drugaredd technoleg fodern yr oes.
Brwydr am
Ein hunaniaeth,
Ein hannibyniaeth,
Ein hetifeddiaeth.
Ffordd o fyw yn aberth ar allor
datblygiad dyn.
Y Cewri mecanyddol
yw brenhinoedd y bryniau,
Byddinoedd ein mynyddoedd mwyn,
Gelyn y glannau.
Ninnau'n ildio
moesymgrymu a phenlinio
i'w haddoli
a difaru.
Anghenfilod peirianyddol,
eu dwylo erodynamig
yn llafnau miniog
trwm,
i rwygo a distrywio,
cyn bwydo ar adar yr awyr.
Ac mae'r fam ddaear yn marw,
heno ni ellir ei hatgyfodi nac anadlu drosti.
Hymian byddarol sy'n boddi'i sgrech am drugaredd
Ei cyn phrydferthwch ond beuddwyd bell.
Heno ein golygfeydd godidog
sy'n hunlledd arswydus
a does dim troi'n ol.