Save Our Common Mountain Environment

What's it all About? | Impact on Farming | Conservation or Decimation? | What You Can Do! | The Case against Windfarms | Cymraeg/Welsh
Turbine Fault Photo Gallery | Mynydd y Gwair Photo Gallery | Photo Gallery II
Protest Convoy | Acoustic Effects

update  Protest Walk Press Release

Welsh flag image:     TUDALEN WE CYMRAEG

‘CEWRI YN DISODLI’N ETIFEDDION AC OLION EIN CYN – DEIDIAU, I GYD MEWN AWEL O WYNT.’


song

   
“Mor swynol ydyw gwenau y blodau ger y drws.”

Wel, beth yw eich barn chi am y trefniant yma? Mewnlifiad o flodau metel ffiaidd. Petalau yr un fath a chleddau miniog. Yno’n torri’r awyr yn ddarnau ac yn ei dywyllu. Estyn cysgodion anghyson dros y tirlun. Codi dirgelwch, ni wyddwn. Pob un a thraffordd ei hun yn arwain ato. Y rhai yma bron pum cant troedfedd o daldra. Yn sefyll yno’n edrych lawr atom o’r gorwelion.

Ble mae’r haul? Oh mor brydferth, s’mo chi’n credu? Celfyddyd newydd modernaidd. Yn creu cyffro. Drwy gyflenwi disgo pedair awr ar hugain i ni am ddim, a thaflu mewn y cerddoriaeth diweddaraf am yr un pris. Gafaelgar iawn? Yr unig fodd o adloniant fydd ar gael. O ganlyniad i drosglwyddwyr y twrbeini gwynt yn effeithio ac yn ymharu ar unrhyw fodd arall o drosglwyddiad.
Bwystfilod grymus. Yno mor ddiniwed, yn llygaid y mwyafrif, yn chwythu ein hetifeddiaeth i ffwrdd. I gyflawni…? wel, dwedwch chi wrthom ni! Ond pam ydym ni’n becso? cyfeillion yr amgylchedd yw’r dyfeisiau yma. Sydd yn sefyll yn ddi – gyffro rhanfwyaf o’r amser!
 
Fod i wella ansawdd bywyd?, wel, bywyd pwy?
   
Mae nhw’n un o’r pethau yma mae’n rhaid i bawb eu cael. Er mwyn bod yn ffasiynnol, ac i gadw lan gyda’r amseroedd. Bod yn rhan o’r brif – lif, yn lle sefyll yn unigolion cryf. Chi’n yssu am fynd mas i ddewis a phigo’r rhai gorau, i’w gosod yn y llestr wydyr gorau ‘na sydd gyda chi ar y silff ffenest yn y gegin, â’u harddangos i bawb, nag y’ch chi?. S’mo ni’n credu!, profwch ni’n anghywir?

Meddyliwch amdano gallwch daflu parti pob dydd. Y goleuadau wedi eu gosod yn barod, y cerddoriaeth ‘mlaen, dim angen ‘dj’, popeth yno am ddim!. Ond cofiwch, ar ôl i chi ddiflasu â’r modd yma o fyw, mae’n rhy hwyr i’w newid nôl!. Felly meddyliwch yn ddwys am yr holl beth, cyn dweud “Ie Plîs!”.

Yn lle clywed lleisiau amrywiol, diagenic, harmoniaidd yr ardal, yn atseinio drwy’r dyffrynoedd, yn hel straeon ac yn adrodd hanesion, ceir drymian undonog, araf, estynedig, ddi – stop, non – diagenic y twrbeini gwynt uwchben popeth arall. Yn amsugno popeth arall i mewn iddo. Yna i ddiflasu pawb a phopeth, cychwyn afiechydon, peri i fyd natur sefyll yn ddi – ymadferth, gwaredu holl greaduriaid byw yn y pendraw. Dyma hunllef, sydd unwaith mae’n cael ei gychwyn, byth yn dod i ben, dimond un modd y gellir datblygu, a hynny yw i waethygu.
   
Ond gellir osgoi hyn i gyd, ond i chi ddod i’r canlyniad cywir. Dyma ardal wledig, naturiol sydd yn dal llawer iawn o hanes, ac mae’r tystiolaeth yno i’w cynnal a’i adrodd. Gellir archwylio’r hanes a mynd nôl ganrifoedd yn gronolegol, ond i chi gymryd yr amser i edrych.

Cymerwch ‘Penlle’r Castell’, sydd ar ben uchaf Mynydd y Gwair. Mae’r hyn a welir o’r safle yn anhygoel, sydd yn cyfiawnhau ei osodiad. Pam na ddewch chi yma am dro i’w weld, cyn iddo gyd gael ei ddirywio a’u ddinistrio gan beiriannau erchyll yr unfed ganrif ar hugain? Dimond un agwedd, allan o nifer mwy yw adfeilion y castell yma. Mae llawer mwy yma i’w weld ac i ddysgu amdano. Well i chi ddod yn fuan, cyn i’r peiriannau symud mewn!. Gallwch chi ein helpu i arbed y colled ddi – angen yma.

    Beth sy’n mynd i ddigwydd i’n cadwyn bwyd ni nawr? pa ddyfodol sydd yma?. Yr unig obaith i warchod y dyfodol sydd gennym fel amaethyddwyr, fydd i mynegu’n barn nawr, neu fydd yr holl beth yn goresgyn bywyd, a’i ddisodli gan beirianneg.

    Os hoffech wybod a dysgu mwy amdano, ac i gynnig eich cefnogaeth, gweler gweddill y we fan, a chysylltwch a ni.

 


Tudalen We Cymraeg


[Top of Page]

What's it all About? | Impact on Farming | Conservation or Decimation? | What You Can Do! | The Case against Windfarms | Cymraeg/Welsh
Turbine Fault Photo Gallery | Mynydd y Gwair Photo Gallery | Photo Gallery II
Protest Convoy | Acoustic Effects